Ymwybyddiaeth o Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Am beth mae’n sôn?

Mae’r cwrs undydd rhagarweiniol hwn yn rhoi dealltwriaeth i gyfranogwyr o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Natur, tueddiadau a phatrymau trais yn erbyn menywod
  • Dealltwriaeth o sut i ymateb i’r rhai sy’n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac o’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael
  • Materion hanfodol i weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?

Gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau rheng flaen neu sy’n ymwneud â’r cyhoedd. Bwriad y cwrs yw cynorthwyo gweithwyr proffesiynol i ddeall trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu bodloni anghenion eu defnyddwyr gwasanaeth yn effeithiol.

Amcanion Dysgu:

  • Cael gwell ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
  • Deall dynameg, achosion ac effaith VAWDASV
  • Meddu ar fwy o hyder wrth adnabod VAWDASV a rheoli datgeliadau
  • Bod yn fwy abl i gyfeirio goroeswyr at gymorth priodol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD.

 

I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].