Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig – Uwch

Am beth mae’n sôn?

Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn yn cynnig dadansoddiad manwl i ddysgwyr o ddynameg Cam-drin Domestig.

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Y broses hudo
  • Y problemau a’r peryglon sy’n gysylltiedig ag ymadael â rhywun camdriniol
  • Mathau o gam-drin domestig
  • Effeithiau beio dioddefwr
  • Dadansoddiad o sut mae rhywedd yn rhyngweithio â’r profiad o gam-drin domestig

Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?

Unrhyw weithiwr proffesiynol (rheng flaen neu reolwr), myfyriwr neu unigolyn sy’n cynorthwyo pobl a allai fod wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig.

Amcanion Dysgu:

  • Deall dynameg, achosion ac effeithiau cam-drin domestig
  • Meddu ar well dealltwriaeth a mwy o hyder wrth adnabod y gwahanol fathau o gam-drin domestig a’r peryglon a’r problemau sy’n wynebu goroeswyr wrth gymryd camau gweithredu
  • Dealltwriaeth gadarn o sut i reoli datgeliadau a chynorthwyo goroeswyr
  • Gwybodaeth am y llwybrau atgyfeirio i wasanaethau arbenigol ar gyfer goroeswyr

 

I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].