Am beth mae’n sôn?
Mae’r cwrs hwn yn edrych ar gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol anghyfartaledd a cham-drin economaidd o fewn y drafodaeth ehangach am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Mae cam-drin economaidd yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched yn ystod perthynas gamdriniol ac am amser hir wedi i’r berthynas ddod i ben. Mae’n effeithio ar eu gallu i weithio, i gael gafael ar wasanaethau addysg a chyfreithiol, ac mae ganddo oblygiadau hirdymor posibl ar gymhwyster i gael credyd sydd, yn y pendraw, yn effeithio ar eu gallu i fod yn annibynnol wrth arfer eu hawliau o fewn ein cymdeithas.
Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?
Gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n ymwneud â’r cyhoedd.
Amcanion Dysgu:
- Deall y cymorth ymarferol y gall gweithwyr rheng flaen ei gynnig i helpu goroeswyr fod yn economaidd gryf
- Deall y fframweithiau strwythurol a chyfreithiol sydd ar waith i gynorthwyo gweithwyr i deimlo’n fwy hyderus wrth gefnogi goroeswyr sydd wedi profi cam-drin economaidd, ac i hyrwyddo grymuster economaidd menywod a merched.
Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD.
I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].