Ar hyn o bryd mae Cymorth i Ferched Cymru yn cynnig tri chwrs hyfforddi e-ddysgu:
- Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig
- Deall Trawma Mechnïol
- Archwilio Aflonyddu Rhywiol
Os hoffech chi gofrestru ar un o’r cyrsiau e-ddysgu, llenwch y ffurflen dalu isod os gwelwch yn dda.
Os ydych chi’n un o’n gwasanaethau aelodau, cofrestrwch trwy’r Ardal yr Aelodau.
Unwaith y bydd y ffurflen wedi’i chyflwyno, byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost ei bod wedi’i derbyn a bydd aelod o’r adran hyfforddi wedyn yn eich cofrestru ar gyfer eich dewis gwrs/cyrsiau. Gadewch o leiaf 3 diwrnod gwaith i hyn gael ei wneud os gwelwch yn dda.
Ar ôl i chi gael eich cofrestru, byddwch chi’n derbyn e-bost awtomatig yn cynnwys cyfarwyddiadau a dolen i gael mynediad i’r cwrs. Os na fyddwch chi wedi derbyn e-bost, gwiriwch eich post sothach cyn cysylltu â ni.
Os bydd gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].
Cyn cwblhau taliad, sicrhewch eich bod wedi darllen datganiad Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) os gwelwch yn dda.