Am beth mae’n sôn?
Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn yn cynnig dadansoddiad manwl i ddysgwyr o ddynameg Cam-drin Domestig.
Mae’r cwrs yn cynnwys:
- Y broses hudo
- Y problemau a’r peryglon sy’n gysylltiedig ag ymadael â rhywun camdriniol
- Mathau o gam-drin domestig
- Effeithiau beio dioddefwr
- Dadansoddiad o sut mae rhywedd yn rhyngweithio â’r profiad o gam-drin domestig
Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?
Unrhyw weithiwr proffesiynol (rheng flaen neu reolwr), myfyriwr neu unigolyn sy’n cynorthwyo pobl a allai fod wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig.
Amcanion Dysgu:
- Deall dynameg, achosion ac effeithiau cam-drin domestig
- Meddu ar well dealltwriaeth a mwy o hyder wrth adnabod y gwahanol fathau o gam-drin domestig a’r peryglon a’r problemau sy’n wynebu goroeswyr wrth gymryd camau gweithredu
- Dealltwriaeth gadarn o sut i reoli datgeliadau a chynorthwyo goroeswyr
- Gwybodaeth am y llwybrau atgyfeirio i wasanaethau arbenigol ar gyfer goroeswyr
I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].