Am beth mae’n sôn?
Mae S.T.A.R yn cynnwys amrywiaeth o raglenni ymyrraeth ac atal sy’n darparu lle diogel i hwyluso sgyrsiau ystyrlon gyda phobl ifanc er mwyn mynd i’r afael â pherthnasoedd a cham-drin. Mae’r rhaglenni canlynol ar gael:
Atal: Rhaglen S.T.A.R. ar gyfer Pobl Ifanc
Caiff pobl ifanc eu gwahaodd i gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithgareddau grŵp gyda hwylusydd sydd wedi’i hyfforddi i adnabod arwyddion rhybudd cynnar a pheryglon perthnasoedd nad ydynt yn rhai iach, gan eu grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a darparu offer ac opsiynau i gael gafael ar gymorth. (Mae pecyn hwylusydd 11-13 oed a phecyn hwylusydd 14-25 oed ar gael)
Ymyrraeth Gynnar: Clwb S.T.A.R ar gyfer plant 6-11 oed
Mae hwyluswyr yn darparu amgylchedd grŵp diogel a chyfrinachol i blant sydd wedi profi cam-drin domestig, iddynt ddeall ac archwilio’u teimladau. Mae chwarae a chael hwyl yn rhan ganolog o holl sesiynau Clwb S.T.A.R. Mae’n arbennig o bwysig i blant sydd wedi profi cam-drin domestig oherwydd efallai nad oedd hyn yn bosibl mewn cartrefi a oedd wedi’u rheoli gan ofn.
Ymyrraeth Gynnar: Rhaglen Adfer S.T.A.R
Mae’r rhaglen hon yn cydnabod pwysigrwydd y rhiant di-drais mewn adferiad plentyn o gam-drin domestig. Mae hwyluswyr yn creu lle diogel i’r fam a’r plentyn archwilio’u profiadau a deall effaith cam-drin domestig ar y plentyn. Mae hwyluswyr yn defnyddio gweithgareddau a llyfrau a chwarae gyda dull sydd wedi’i lywio gan drawma, wedi’i arwain gan anghenion ac wedi’i seilio ar gryfderau, i arfogi’r fam a’r plentyn i feithrin y bondiau sydd eisoes yn bodoli rhyngddynt. (Mae pecyn 7-11 oed ar gael)
Hyd:
Mae pob rhaglen yn gofyn i ymarferwyr fynychu pedwar hanner diwrnod o hyfforddiant.
Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?
Atal: Unrhyw ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant o dan 25 oed
Ymyrraeth Gynnar (Rhaglen Adfer a’r Clwb): Aelod-wasanaethau sy’n gweithio’n benodol gyda phlant sydd wedi profi/wedi dioddef cam-drin domestig.
Cynnwys y cwrs:
Ar gyfer pob rhaglen bydd ymarferwyr yn gallu cyflawni’r canlynol:
Atal: Rhaglen S.T.A.R. ar gyfer Pobl Ifanc
- Hwyluso 8 sesiwn awr yr un i blant a phobl ifanc ar byncaiu fel perthnasoedd iach, cam-drin domestig, cydsynio a meithrin perthynas amhriodol.
- Datblygu trafodaethau gyda phobl ifanc ar sut mae hyn yn effeithio ar eu bywyd bob dydd gan gynnwys stereoteipio, rôl y cyfryngau cymdeithasol, pornograffi a rhannu delweddau.
- Cael mynediad at becynnau, adnoddau a chanllaw hwylusydd i greu rhaglen ryngweithiol a diddorol.
Ymyrraeth Gynnar: Clwb S.T.A.R
- Hwyluso yn hyderus 8 sesiwn i blant sydd wedi profi cam-drin domestig
- Archwilio pynciau fel cam-drin domestig, archwilio teimladau ac adnabod eu cryfderau ac adeiladu arnynt
- Cael defnyddio canllaw ac adnoddau hwylusydd i greu sesiynau ystyrlon a rhyngweithiol.
Ymyrraeth Gynnar: Rhaglen Adfer S.T.A.R
- Hwyluso yn hyderus 10 sesiwn i blant a mamau
- Archwilio profiadau o gam-drin domestig gyda phlant a mamau mewn ffordd sydd wedi’i llywio gan drawma
- Cael defnyddio canllaw hwylusydd gyda gweithgareddau ac adnoddau i greu sesiynau rhyngweithiol a diddorol
Bydd Cymorth i Ferched Cymru yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol i gyflwyno’r rhaglen ac rydym ni’n annog gwaith partneriaeth gydag aelod-grwpiau lleol.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].