Hyfforddiant wedi’i deilwra

Os hoffech dderbyn hyfforddiant wedi’i deilwra i ofynion eich mudiad neu’ch sefydliad chi, mae gennym dîm arbenigol a chymwysedig yn Cymorth i Ferched Cymru i fodloni eich anghenion.

Mae gennym brofiad o ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant pwrpasol ar byncaiu sy’n amrywio o bolisïau yn y gweithle i bynciau mwy arbenigol. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol os gwelwch yn dda i drafod eich gofynion unigol.

Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol

Mae gennym Bartneriaeth Hyfforddi Cenedlaethol o asiantaethau arbenigol sy’n darparu hyfforddiant i sicrhau ein bod yn cynnig yr arbenigedd a’r profiad gorau ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ar y cyd gyda’n Gwasanaeth Hyfforddi Cenedlaethol, gallwn gynnig trawstoriad o hyfforddiant arbenigol gan gynnwys gwaith gyda’r gymuned LGBT+, plant a phobl ifanc, ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Os hoffech chi siarad ag aelod o’r tîm, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].

Hyfforddwyr Cymorth i Ferched Cymru

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn hyfforddwr gyda Cymorth i Ferched Cymru, cysylltwch â ni yma os gwelwch yn dda.

Os ydych chi’n hyfforddwr ac angen mwy o wybodaeth ac adnoddau, cliciwch yma.