Deall Aflonyddu Rhywiol

Am beth mae’n sôn?

Yn aml caiff aflonyddu rhywiol ei ystyried fel math ‘llai’ o drais rhywiol. Nod yr hyfforddiant hwn yw dangos bod aflonyddu rhywiol yn fath difrifol o drais rhywiol a all arwain at ganlyniadau dinistriol hirdymor i oroeswyr. Mae aflonyddu rhywiol yn treiddio i fywyd cymdeithasol a gwaith menywod ac ar y cwrs hwn rydym ni’n edrych ar y mythau sy’n ymwneud â’r pwnc, yn amlygu realiti byw gydag aflonyddu rhywiol ac yn arfogi dysgwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau i gefnogi goroeswyr. Mae hyn yn cynnwys archwiliad manwl o gyfraith sifil a throseddol sy’n ymwneud ag aflonyddu rhywiol.

Mae’r hyfforddiant hwn yn ganlyniad i fudiadau “Me Too” a “Time’s Up”, a ddaeth â’r mater, a natur eang aflonyddu rhywiol, i sylw byd-eang.

Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?

Gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n ymwneud â’r cyhoedd.

Amcanion Dysgu:

  • Meddu ar well ymwybyddiaeth o aflonyddu rhywiol
  • Deall dynameg, achosion ac effaith aflonyddu rhywiol
  • Gallu adnabod aflonyddu rhywiol a gwella hyder wrth reoli datgeliadau o aflonyddu rhywiol
  • Gallu cyfeirio goroeswyr am gymorth priodol yn arbennig mewn perthynas â chyfraith cyflogaeth a throseddol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD.

 

Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael fel un e-ddysgu. Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau e-ddysgu, ewch i’n tudalen Gweminarau ac E-ddysgu os gwelwch yn dda.

 

Am fwy o fanylion am y cwrs hwn neu i archebu hyfforddiant aflonyddu rhywiol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].