Deall Trais Rhywiol

Am beth mae’n sôn?

Nod y cwrs undydd hwn yw ehangu eich ymwybyddiaeth o drais rhywiol, gan eich galluogi i deimlo’n hyderus wrth gefnogi goroeswyr sydd wedi profi unrhyw fath o drais rhywiol ar unrhyw adeg yn ystod eu bywydau. Byddwn ni’n edrych ar ddynameg trais rhywiol o fewn perthnasoedd rhyngbersonol yn ogystal ag ymosodiadau gan gydnabod a dieithriaid.

Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?

Gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n ymwneud â’r cyhoedd.

Amcanion Dysgu:

  • Diffiniadau o’r gwahanol fathau o drais rhywiol
  • Hanes trais rhywiol
  • Effaith trais rhywiol ar oroeswyr a rhwystrau i ddatgelu trais rhywiol
  • Y gyfraith ynghylch trais rhywiol a chydsynio
  • Cefnogi goroeswyr trais rhywiol gan gynnwys mynediad i becyn cymorth a fydd yn eich cynorthwyo yn eich gwaith o gefnogi

 

I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].