Am beth mae’n sôn?
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn treiddio i fywydau miloedd o bobl bob dydd gyda chanlyniadau dinistriol. Mae ymddygiadau gorfodaethol a rheolaethol yn sail i’r cam-drin hwn.
Ers i ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol ddod yn drosedd yng Nghymru a Lloegr yn 2015, mae Cymorth i Ferched Cymru wedi gweithio gyda’r Heddlu i hyfforddi eu swyddogion i ddeall dynameg ac effeithiau’r ymddygiad hwn yn well, a sut i gasglu tystiolaeth effeithiol. Mae’r cwrs hwn yn arfogi gweithwyr proffesiynol â’r wybodaeth a’r sgiliau i gefnogi goroeswyr rheolaeth drwy orfodaeth.
Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?
Unrhyw weithwyr proffesiynol y gall eu defnyddwyr gwasanaeth gael eu heffeithio gan ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol.
Amcanion Dysgu:
- Adnabod tactegau rheolaeth drwy orfodaeth, a deall eu heffaith ar oroeswyr gan gynnwys plant
- Deall y ddeddfwriaeth berthnasol
- Cymhwyso gwybodaeth am ymddygiad gorfodaethol a rheolaethol a’r ddeddfwriaeth berthnasol i:
- Wella eich systemau cadw cofnodion
- Asesu’n well anghenion eich defnyddwyr gwasanaeth sy’n cael eu rheoli drwy orfodaeth
- Dangos dealltwriaeth o ddeddfwriaeth i ddarparu tystiolaeth a datganiadau gwerthfawr i’r heddlu
Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD.
I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu hyfforddiant, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].