Am beth mae’n sôn?
Ydych chi’n sefydliad cymorth anarbenigol a fyddai’n hoffi pennu a datblygu unigolyn neu dîm o weithwyr i ddod yn hyrwyddwyr trechu trais yn erbyn menwyod yn y gweithle? Ydych chi wedi derbyn hyfforddiant sefydliadaol ar drais yn erbyn menywod a nawr rydych chi am hyrwyddo’r achos yn eich gweithle? Os felly, mae’r cwrs hwn i chi.
Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?
- Sefydliadau nad ydynt yn wasanaethau arbenigol ond a fyddai’n elwa o gael arbenigwr yn y gweithle a allai arwain a chefnogi cydweithwyr
- Sefydliadau sydd am wella eu harferion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod
- Sefydliadau sydd am gefnogi staff yn fwy effeithiol ynglŷn â thrais yn erbyn menywod
- Sefydliadau sy’n ymdrechu i fod yn weithleoedd gwell ac iachach
Amcanion Dysgu:
- Deall effeithiau cymhleth cam-drin,
- Deall sut i asesu a rheoli peryglon sy’n cael eu hwynebu gan ddefnyddwyr gwasanaethau,
- Deall cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth,
- Deall cyflawnwyr a’u hymddygiad,
- Deall sut i gefnogi a gofalu amdanynt eu hunain a’u cydweithwyr.
I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu hyfforddiant Hyrwyddwyr Trechu Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn y Gweithle, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].