Am beth mae’n sôn?
Mae’r sesiwn hon ar gyfer gweithwyr sydd â chyswllt rheolaidd â phlant a phobl ifanc ac sy’n ceisio deall sut y gall byw gyda cham-drin domestig effeithio ar eu bywydau. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ar fynychwyr am gam-drin domestig na materion cysylltiedig.
Beth yw cynnwys y cwrs?
- Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i effeithiau cam-drin domestig ar blant a phobl ifanc ar draws gwahanol oedrannau. Mae’n archwilio sut y gall gweithwyr gefnogi plant a phobl ifanc pan fydd cam-drin domestig wedi’i adnabod, a ffyrdd effeithiol o gefnogi’r rhiant di-drais.
Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?
Unrhyw ymarferydd sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gyda phlant.
Amcanion Dysgu:
- Ymwybyddiaeth o effaith cam-drin domestig ar blant a phobl ifanc
- Gallu adnabod y ffyrdd y mae plant a phobl ifanc o wahanol oed yn profi cam-drin domestig
- Gallu disgrifio effeithiau cyffredinol cam-drin domestig ar blentyn neu berson ifanc
- Gwell dealltwriaeth o ganlyniadau beio
- Gwell ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y gallwn ni gefnogi menywod, plant a phobl ifanc sydd wedi profi cam-drin domestig
- Gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd gwrando ar blant a phobl ifanc a pha mor anodd y gall fod iddynt gael eu clywed
- Gwell cydnabyddiaeth o bwysigrwydd darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc leisio’u barn, er enghraifft, trwy gymorth
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].