Am beth mae’n sôn?
Mae’r cwrs undydd hwn yn cynnig cyfle i weithwyr proffesiynol edrych yn fanwl ar drawma, y gwahanol ffyrdd y gall effeithio ar bobl, a sut i weithio mewn ffordd sy’n cydnabod y trawma hwn ac sy’n lleihau niwed pellach i oroeswyr.
Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?
Rheolwyr a gweithwyr proffesiynol rheng flaen sy’n ymwneud â’r cyhoedd.
Amcanion Dysgu:
- Deall yr hyn yw trawma ac achosion trawma
- Deall sut mae profiadau o drawma yn effeithio ar unigolion
- Deall yr hyn yw dull sydd wedi’i lywio gan drawma a pham mae goroeswyr VAWDASV yn elwa ohono
- Myfyrio ar arferion cyfredol
- Cael offer ymarferol i’ch cynorthwyo i weithio gyda goroeswyr trawma
“Mae trawma yn aros gyda chi, hyd yn oed ar ôl i’r foment ofnadwy basio. Heb gefnogaeth, fe all e ddod yn ddedfryd oes am drosedd wnaethoch chi ddim ei chyflawni.” – Goroeswr
Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD.
I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].