Mae Cymorth i Ferched Cymru yn falch o gynnig detholiad o’n cyrsiau fel pecynnau hyfforddi e-ddysgu. Mae’r cyrsiau hyn wedi’u datblygu gan ein hyfforddwyr arbenigol ac maen nhw’n ffordd fforddiadwy ac effeithlon o ran amser i wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth.
Isod gallwch weld gwybodaeth am y cyrsiau e-ddysgu sydd ar gael a chyfarwyddiadau ynghylch cofrestru ar gwrs.
Sut i gofrestru?
I gofrestru ar gwrs, llenwch ein ffurflen gofrestru e-ddysgu drwy’r ddolen isod os gwelwch yn dda:
Ar ôl i chi gael eich cofrestru ar gwrs, byddwch chi’n derbyn e-bost awtomatig yn cynnwys dolen i gael mynediad i’r cwrs. Os na fyddwch chi wedi derbyn e-bost, gwiriwch eich post sothach ac arhoswch 3 diwrnod cyn cysylltu â ni.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am hyfforddiant neu gyrsiau Cymorth i Ferched Cymru, cysylltwch â’n tîm os gwelwch yn dda: [email protected].
Gweminarau
Sut mae gallu meddyliol cyfnewidiol yn effeithio ar oroeswyr
Cynhaliodd Cymorth i Ferched Cymru a Phrifysgol Aberystwyth weminar addysgiadol, ac rydym ni’n eich gwahodd chi i ymuno â ni. O dan arweiniad Rebecca Zerk, yr Athro John Williams a Mwenya Chimba PhD (Pennaeth Hyfforddiant Cymorth i Ferched Cymru), dysgodd y mynychwyr am y ffactorau a all effeithio ar allu meddyliol, gan gynnwys anaf i’r ymennydd, anabledd dysgu a dementia, a’u hamrywiol ddangosyddion, yn ogystal ag am sut i archwilo’r ffordd orau o weithio gyda’r goroeswyr hyn ac ymateb iddynt yng nghyd-destun sefyllfa o gam-drin domestig.