Deall Profiad Plant a Phobl Ifanc o Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Am beth mae’n sôn?

Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn wedi’i ddatblygu i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifan sy’n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol  (VAWDASV) gan gynnwys byw gyda cham-drin ar eu haelwydydd.

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Natur a dynameg VAWDASV a sut gall plant a phobl ifanc ei brofi.

Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?

Gweithwyr proffesiynol ar draws ystod o sectorau sydd â chyswllt rheolaidd â phlant a phobl ifanc.

Amcanion Dysgu:

  • Deall sut gall plant a phobl ifanc brofi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)
  • Deall sut i gefnogi plant a phobl ifanc o ran datgelu
  • Deall sut mae gwasanaethau yn cefnogi anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol

Bydd disgwyl i fynychwyr gwblhau’r canlynol:

  1. Hyfforddiant e-ddysgu cyn y cwrs
  2. Gweminar fyw am hanner diwrnod ar Teams neu Zoom
  3. Gwetihgareddau ôl-gwrs.

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD  ac mae achrediad pellach i’w gael ar Lefel 3 drwy Agored Cymru.  

 

I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].