Cydgynhyrchu Gwasanaethau gyda Goroeswyr

Beth yw ei ystyr? 

Dylai cydgynhyrchu gwasanaethau’n effeithiol, sy’n gosod goroeswyr wrth galon datblygu a darparu gwasanaethau, fod yn nod i bob sefydliad sy’n canolbwyntio ar trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r cwrs hyfforddi undydd hwn yn archwilio theori Cydgynhyrchu, manteision Cydgynhyrchu gwasanaethau gyda goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a sut i roi Cydgynhyrchu ar waith yn eich sefydliad. 

I bwy y byddai yn ddefnyddiol? 

Gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio mewn partneriaeth â goroeswyr sydd â phrofiad byw. 

Amcanion dysgu: 

  • Yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd ag ymagwedd wirioneddol ystyrlon ac effeithiol at ymgysylltu â goroeswyr, gan gynnwys dulliau ymgysylltu, sicrhau ansawdd, a moeseg. 
  • Datblygu fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau wedi’u cydgynhyrchu gyda goroeswyr. 

 

Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r cwrs yma, neu i archebu’r hyfforddiant, cysylltwch â [email protected]