Cyfrinachedd a Ffiniau proffesiynol

Beth yw ei ystyr? 

Cwrs yn seiliedig ar drafodaeth, wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr cymorth arbenigol, yn edrych ar yr hyn a olygir gan gyfrinachedd, ei ddiben a’i fanteision, deddfwriaeth perthnasol, a’r ffordd orau o fonitro a rheoli, fel unigolion ac fel sefydliad. 

Mae’r cwrs yn dadansoddi’n fanwl y cysyniad o ganiatâd wrth rannu gwybodaeth, amgylchiadau sy’n gofyn am dorri cyfrinachedd, a’r ffordd orau o rannu gwybodaeth fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae hefyd yn archwilio’r cysyniad o gadw ffiniau proffesynol, y ffordd orau i’w gosod, eu manteision i ddefnyddwyr gwasanaethau, gweithwyr cymorth unigol a’u sefydliad, a’r ffordd orau o reoli achosion o dorri ffiniau.

I bwy y byddai yn ddefnyddiol? 

Gweithwyr proffesiynol yn y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Amcanion dysgu: 

  • Magu gwybodaeth ymarferol dda o gyfrinachedd a ffiniau.  
  • Deall y pwrpas a’r manteision o gyfrinachedd a ffiniau proffesiynol.  
  • Defnyddio deddfwriaeth cyfrinachedd a pholisïau mewnol yn effeithiol mewn arferion bob dydd. 

 

Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r cwrs yma, neu i archebu’r hyfforddiant, cysylltwch â [email protected]