Am beth mae’n sôn?
Gall gweithio gyda goroeswyr cam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod gael effaith seicolegol ac emosiynol ar ymarferwyr, beth bynnag yw eu profiad neu’u medrusrwydd. Mae’r cwrs hwn yn darparu strategaethau a chymorth ymarferol ar gyfer lles gweithwyr proffesiynol yn ogystal ag arferion iach ar gyfer y gweithle sy’n cefnogi lles y staff.
Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?
Byddai hwn yn ddefnyddiol i bob gweithiwr proffesiynol sy’n ystyried eu lles eu hunain a lles eu cydweithwyr o ddifrif. Mae’r hyfforddiant yn addas i staff rheng flaen a rheolwyr. Gall gwella iechyd a lles staff gynyddu’n sylweddol effeithiolrwydd eich darpariaeth yn ogystal â chynaliadwyedd eich gwasanaeth.
Amcanion Dysgu:
- Deall Trawma Mechnïol
- Deall Trawma Seicolegol
- Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD)
- Trawma eilaidd, blinder tosturi a lludded
- Rôl empathi a thosturi
- Gwaith empathi ac ymatebion emosiynol i drawma pobl eraill
- Effeithiau Trawma Mechnïol
- Atal Trawma Mechnïol ac ymateb i symptomau
- Ymafer ffiniau proffesiynol
- Meithrin Gwydnwch
- Hunan-ofal, cymorth cyfoedion a sefydliadol
Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD.
Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael fel un e-ddysgu. I gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau e-ddysgu, ewch i’n tudalen Gweminarau ac E-ddysgu yma os gwelwch chi’n dda.
I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu hyfforddiant Trawma Mechnïol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].