Beth yw ei ystyr?
Gall dal gwybodaeth am gamdriniwr neu wybodaeth plentyn pan mai’r camdriniwr yw’r rhiant greu heriau i wasanaethau. Mae pryderon sylweddol bod gan y camdriniwr yr hawl i gael mynediad at wybodaeth a gedwir drwy gais gwrthrych data, ac mae gwasanaethau’n ansicr sut i ddelio â’r mater hwn. Datblygir yr hyfforddiant ochr yn ochr ag arbenigwyr allanol.
I bwy y byddai yn ddefnyddiol?
Ymarferwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Amcanion dysgu:
- Deall gofynion cyfreithiol unrhyw gais gwrthrych data.
- Deall arfer da o ran cadw cofnodion e.e., pryd, a sut y dylid cofnodi data a pha fath o ddata y dylid/gellir ei gadw am blant neu gamdrinwyr er mwyn sicrhau diogelwch menywod a phlant.
Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r cwrs yma, neu i archebu’r hyfforddiant, cysylltwch â [email protected]