Gwreiddio croestoriadedd ar gyfer uwch arweinwyr

Beth yw ei ystyr? 

Mae croestrawiadedd yn ymagwedd at amrywiaeth sydd yn cydnabod sut mae hil, rhyw, dosbarth, oedran a nodweddion eraill i gyd yn cysylltu i ffurfio profiad personol – o waith ac o fywyd – gan ddod ag anfanteision a breintiau.  

Mae’n effeithio ar ba mor ddiogel y mae unigolyn yn teimlo wrth ddod â’u hynain yn llawn i’r gweithle a sut y gallwch chi fel cyflogwyr gefnogi gweithwyr i ddefnyddio eu cryfderau yn llawn mewn amgylchedd cefnogol. 

Pwrpas y cwrs hwn yw gwella gwybodaeth arweinwyr am groestrawiadedd, yn ogystal ag adeiladu sgiliau i’w gwreiddio ym mhob rhan o strategaeth sefydliadol, datblygu prosiectau, a darparu gwasanaethau. Bydd y cwrs rhyngweithiol hwn yn archwilio ffyrdd ymarferol y gall arweinwyr greu systemau i feithrin amrywiaeth, tegwch, a chynhwysiant pob unigolyn yn y sefydliad yn well, a gwella profiadau defnyddwyr y gwasanaeth.   

I bwy y byddai yn ddefnyddiol? 

Ymarferwyr mewn swyddi arwain o fewn eu sefydliad. 

Amcanion dysgu: 

  • Deall pwysigrwydd croestrawiadedd yn y gweithle a pham fod ymgysylltu efo staff amrywiol yn bwysig.  
  • Disgrifio profiadau pobl ymylol yn y gweithle. 
  • Datblygu sgiliau i gefnogi pobl ymylol yn effeithiol.  
  • Creu prosesau i wreiddio croestrawiadedd mewn i prosiectau a datblygu gwasanaethau.

 

Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r cwrs yma, neu i archebu’r hyfforddiant, cysylltwch â [email protected]