Sut i eirioli yn effeithiol ar gyfer goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Beth yw ei ystyr?

Bydd y cwrs hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ddeall eiriolaeth a datblygu dealltwriaeth o sgiliau eiriolaeth effeithiol, prosesau ac egwyddorion y gallant eu rhoi fewn i’w gwaith. 

I bwy y byddai yn ddefnyddiol? 

Gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda goreswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Amcanion dysgu: 

  • Deall y rolau amrywiol a gyflawnir gan eiriolwr sy’n cefnogi goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a lle maent yn eistedd o fewn y cyd-destun eiriolaeth ehangach. 
  • Egluro’r sgiliau allweddol sydd eu hangen i weithio fel ymarferwr yn darparu eiriolaeth i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 
  • Archwilio’r materion allweddol â wynebir gan eiriolwr wrth ymgysylltu a chefnogi goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a ffyrdd o’i oresgyn. 

 

Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r cwrs yma, neu i archebu’r hyfforddiant, cysylltwch â [email protected]