Diogelu Data a Cham-drin Domestig

Beth yw ei ystyr? 

Gall dal gwybodaeth am gamdriniwr neu wybodaeth plentyn pan mai’r camdriniwr yw’r rhiant greu heriau i wasanaethau. Mae pryderon sylweddol bod gan y camdriniwr yr hawl i gael mynediad at wybodaeth a gedwir drwy gais gwrthrych data, ac mae gwasanaethau’n ansicr sut i ddelio â’r mater hwn. Datblygir yr hyfforddiant ochr yn ochr ag arbenigwyr allanol. 

I bwy y byddai yn ddefnyddiol? 

Ymarferwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Amcanion dysgu: 

  • Deall gofynion cyfreithiol unrhyw gais gwrthrych data. 
  • Deall arfer da o ran cadw cofnodion e.e., pryd, a sut y dylid cofnodi data a pha fath o ddata y dylid/gellir ei gadw am blant neu gamdrinwyr er mwyn sicrhau diogelwch menywod a phlant. 

 

Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r cwrs yma, neu i archebu’r hyfforddiant, cysylltwch â [email protected]