Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig

Am beth mae’n sôn?

Mae’r cwrs undydd/hanner diwrnod hwn yn ystyried cam-drin domestig sy’n treiddio bywydau miloedd o bobl ar draws y byd bob dydd, gyda chanlyniadau dinistriol hirdymor.

Mae’r cwrs yn cynnwys:

  • Dynameg, natur ac achosion cam-drin domestig.
  • Gan ddefnyddio astudiaethau achos, bydd mynychwyr yn cynyddu dealltwriaeth o effaith cam-drin domestig ar oroeswyr, yn gwerthuso’r ffordd orau o ymateb i ddatgeliadau, a’r ffordd orau o ddiogelu a rhannu gwybodaeth yn ddiogel a phriodol.
  • Gwasanaethau cymorth arbenigol a sut i atgyferirio iddynt.

Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?

Unrhyw weithiwr proffesiynol (rheng flaen neu reolwr), myfyriwr neu unigolyn sy’n cynorthwyo pobl a allai fod wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig.

Amcanion Dysgu:

  • Deall dynameg, achosion ac effeithiau cam-drin domestig
  • Meddu ar fwy o hyder wrth adnabod cam-drin domestig a rheoli datgeliadau
  • Gallu cyfeirio goroeswyr at gymorth priodol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD.

 

Mae’r cwrs hefyd ar gael fel un e-ddysgu. I gael mwy o wybodaeth am gyrsiau e-ddysgu, ewch i’n tudalen Gweminarau ac E-ddysgu yma.

For more information about this course or to book Domestic Abuse Awareness Training please contact us at [email protected].