Trawma Mechnïol

Am beth mae’n sôn?

Gall gweithio gyda goroeswyr cam-drin domestig a mathau eraill o drais yn erbyn menywod gael effaith seicolegol ac emosiynol ar ymarferwyr, beth bynnag yw eu profiad neu’u medrusrwydd. Mae’r cwrs hwn yn darparu strategaethau a chymorth ymarferol ar gyfer lles gweithwyr proffesiynol yn ogystal ag arferion iach ar gyfer y gweithle sy’n cefnogi lles y staff.

Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?

Byddai hwn yn ddefnyddiol i bob gweithiwr proffesiynol sy’n ystyried eu lles eu hunain a lles eu cydweithwyr o ddifrif. Mae’r hyfforddiant yn addas i staff rheng flaen a rheolwyr. Gall gwella iechyd a lles staff gynyddu’n sylweddol effeithiolrwydd eich darpariaeth yn ogystal â chynaliadwyedd eich gwasanaeth.

Amcanion Dysgu:

  • Deall Trawma Mechnïol
  • Deall Trawma Seicolegol
  • Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD)
  • Trawma eilaidd, blinder tosturi a lludded
  • Rôl empathi a thosturi
  • Gwaith empathi ac ymatebion emosiynol i drawma pobl eraill
  • Effeithiau Trawma Mechnïol
  • Atal Trawma Mechnïol ac ymateb i symptomau
  • Ymafer ffiniau proffesiynol
  • Meithrin Gwydnwch
  • Hunan-ofal, cymorth cyfoedion a sefydliadol

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD.

 

Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael fel un e-ddysgu. I gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau e-ddysgu, ewch i’n tudalen Gweminarau ac E-ddysgu yma os gwelwch chi’n dda.

 

I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu hyfforddiant Trawma Mechnïol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].