Am beth mae’n sôn?
Mae trais yn erbyn menywod yn effeithio ar bobl yn eich gweithlu ac yn cael effaith ar gynhyrchiant a lles eich staff yn y gwaith. Bwriad y cwrs hwn yw rhoi awgrymiadau i reolwyr ar sut i reoli a chefnogi aelod o staff sy’n profi unrhyw fath o drais yn erbyn menywod. Bydd yr hyfforddiant yn cynorthwyo cyflogwyr i adnabod arwyddion trais a cham-drin a bydd yn dangos camau syml y gall cyflogwyr eu cymryd i ymateb i’r mater sensitif hwn yn unol â’u cyfrifoldebau.
Pwy fyddai’n gweld hyn yn ddefnyddiol?
Rheolwyr, arweinwyr a gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector.
Amcanion Dysgu:
- Deall effaith trais yn erbyn menywod ar unigolion a gweithleoedd
- Deall sut gall cefnogi/gweithio ochr yn ochr â goroeswr effeithio ar gydweithwyr a rheolwyr
- Adnabod arwyddion a symptomau rhywun sy’n profi cam-drin domestig
- Teimlo’n fwy hyderus wrth gefnogi aelod o staff/cydweithiwr sy’n profi trais yn erbyn menywod yn y gweithle
- Teimlo’n fwy hyderus wrth ymateb yn effeithiol i ddatgeliad
- Cynyddu ymwybyddaieth o sut i sicrhau ymatebion cefnogol i gam-drin domestig
Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan wasanaeth ardystio CPD.
I gael mwy o wybodaeth am y cwrs hwn neu i archebu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda: [email protected].