Beth yw ei ystyr?
Mae croestrawiadedd yn ymagwedd at amrywiaeth sydd yn cydnabod sut mae hil, rhyw, dosbarth, oedran a nodweddion eraill i gyd yn cysylltu i ffurfio profiad personol – o waith ac o fywyd – gan ddod ag anfanteision a breintiau.
Mae’n effeithio ar ba mor ddiogel y mae unigolyn yn teimlo wrth ddod â’u hynain yn llawn i’r gweithle a sut y gallwch chi fel cyflogwyr gefnogi gweithwyr i ddefnyddio eu cryfderau yn llawn mewn amgylchedd cefnogol.
Pwrpas y cwrs hwn yw gwella gwybodaeth arweinwyr am groestrawiadedd, yn ogystal ag adeiladu sgiliau i’w gwreiddio ym mhob rhan o strategaeth sefydliadol, datblygu prosiectau, a darparu gwasanaethau. Bydd y cwrs rhyngweithiol hwn yn archwilio ffyrdd ymarferol y gall arweinwyr greu systemau i feithrin amrywiaeth, tegwch, a chynhwysiant pob unigolyn yn y sefydliad yn well, a gwella profiadau defnyddwyr y gwasanaeth.
I bwy y byddai yn ddefnyddiol?
Amcanion dysgu:
- Deall pwysigrwydd croestrawiadedd yn y gweithle a pham fod ymgysylltu efo staff amrywiol yn bwysig.
- Disgrifio profiadau pobl ymylol yn y gweithle.
- Datblygu sgiliau i gefnogi pobl ymylol yn effeithiol.
- Creu prosesau i wreiddio croestrawiadedd mewn i prosiectau a datblygu gwasanaethau.
Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r cwrs yma, neu i archebu’r hyfforddiant, cysylltwch â [email protected]