Beth yw ei ystyr?
Bydd y cwrs hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ddeall eiriolaeth a datblygu dealltwriaeth o sgiliau eiriolaeth effeithiol, prosesau ac egwyddorion y gallant eu rhoi fewn i’w gwaith.
I bwy y byddai yn ddefnyddiol?
Gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio’n uniongyrchol gyda goreswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Amcanion dysgu:
- Deall y rolau amrywiol a gyflawnir gan eiriolwr sy’n cefnogi goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a lle maent yn eistedd o fewn y cyd-destun eiriolaeth ehangach.
- Egluro’r sgiliau allweddol sydd eu hangen i weithio fel ymarferwr yn darparu eiriolaeth i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Archwilio’r materion allweddol â wynebir gan eiriolwr wrth ymgysylltu a chefnogi goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a ffyrdd o’i oresgyn.
Am fwy o wybodaeth ynglyn a’r cwrs yma, neu i archebu’r hyfforddiant, cysylltwch â [email protected]